About Us
Established in Newport in 1869 to help local people build homes, we now help people across Wales and England buy properties and save for their future.
< !--Created with SVG-edit - https://svg-edit.googlecode.com/ --> Find out more
Banc Cymunedol i Gymru

English

Ym mis Rhagfyr 2021, datgelwyd cynlluniau uchelgeisiol i gyflwyno'r Banc Cymunedol cyntaf erioed yng Nghymru – un o'r datblygiadau mwyaf a mwyaf cyffrous yn hanes Monmouthshire Building Society, a sefydlwyd 150 mlynedd yn ôl.

Gyda chefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru, bydd Banc Cymunedol i Gymru  yn arwain y ffordd wrth ddarparu bancio manwerthu hygyrch o ansawdd uchel i gymunedau ledled Cymru.

Gan adeiladu ar brofiad cadarn ac enw da'r Gymdeithasol fel brand blaenllaw yng Nghymru, bydd y banc cymunedol yn seiliedig ar ein model cydfuddiannol cyfredol – sy'n golygu y bydd yn eiddo i'n haelodau ac y caiff ei redeg er budd iddynt.

Pam rydym yn gwneud hyn?

Gyda llawer o fanciau manwerthu yn gadael y stryd fawr ledled Cymru, mae llawer o bobl a chymunedau wedi colli mynediad i wasanaethau bancio gwerthfawr.

Pobl sy'n dibynnu ar fancio wyneb yn wyneb a chymunedau gwledig sydd wedi cael eu taro waethaf. Yn aml, mae hyn y cynnwys pobl a busnesau sy'n dibynnu mwy ar arian parod, y rheiny sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol neu sydd â heriau iechyd a phobl nad ydynt am reoli eu cyllid ar-lein yn unig. 

Mae'r allgau ariannol hwn yn cael effaith andwyol enfawr ar gymdeithas ac ar lesiant economaidd, diwylliannol a hyd yn oed amgylcheddol Cymru gynaliadwy.

Ac nid yw hynny'n iawn yn ein barn ni.

Felly, rydym yn mynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth hwn a methiant y farchnad drwy ddatblygu a chyflwyno Banc Cymunedol i Gymru.

Ein Banc Cymunedol i Gymru

Bydd ein Banc Cymunedol i Gymru – a fydd yn eiddo i'n haelodau ac yn cael ei redeg er budd iddynt – yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau bancio manwerthu dwyieithog i unigolion a busnesau, a fydd ar gael dros y ffôn, yn ddigidol ac, yn hollbwysig, drwy rwydwaith o allfeydd ffisegol ledled Cymru.

Gyda'i bencadlys yn ein cartref yng Nghasnewydd, bydd ein Banc Cymunedol: 

  • Ar gael i bawb – ni waeth beth fo'u lleoliad, eu hincwm, eu cyfoeth neu eu gallu digidol
  • Yn ystyried dymuniadau ac anghenion pawb drwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau ar-lein ac yn bersonol
  • Yn eiddo i'w aelodau, ac yn cael ei redeg ar eu cyfer ac er budd iddynt, yn hytrach nag er mwyn creu'r elw mwyaf i randdeiliaid.

Credwn mai dyma'r peth cywir i'w wneud – i'n haelodau, i'n darpar aelodau ac i Gymru.

Pryd fyddai’n lansio?

Wedi'i ddiweddaru 2.2.23

Rydym am i'n banc cymunedol fod yn ddarparwr gwasanaethau ariannol cryf a chynaliadwy sydd â phresenoldeb hir a llwyddiannus ar y stryd fawr Cymru am flynyddoedd i ddod.

Ers i ni gyhoeddi ein cynlluniau, mae sefyllfa economaidd y DU wedi newid yn sylweddol.

Mae Banc Lloegr yn rhagweld dirwasgiad ‘hir’ gyda sawl ffactor yn effeithio ar y sefyllfa economaidd - mae cyfraddau llog wedi cynyddu, mae crebachiad wedi bod yn y farchnad morgeisi, mae prisiau tai yn gostwng ac mae argyfwng costau byw.  

Ar ôl llawer o ddadansoddi a chraffu, rydym wedi penderfynu nad yw’r amodau economaidd presennol yn iawn ar gyfer lansio banc cymunedol llwyddiannus a masnachol hyfyw.

Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol bwrpasol, mae ein hawydd i gyflwyno banc cymunedol i Gymru yn dal i fod yn gryf,  felly rydym yn diweddaru ein cynlluniau i’w lansio ar adeg fwy sefydlog.

Nid yw’n hawdd sefydlu banc cymunedol felly mae’n bwysicach ei gael yn iawn na’i gael yn gyflym.

Sicrhau ein bod yn lansio ar yr adeg iawn yw’r peth cywir a chyfrifol i’w wneud ar gyfer ein haelodau presennol, aelodau’r dyfodol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa economaidd ac ariannol a rhagfynegiadau’r farchnad i sicrhau ein bod yn lansio ar adeg briodol.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda datblygiadau ar ein Banc Cymunedol i Gymru.