Wedi'i arwain gan Monmouthshire Building Society – y gymdeithas adeiladu hirsefydledig sydd â'i bencadlys yng Nghasnewydd – bydd y banc cymunedol yn dilyn model cydfuddiannol y Gymdeithas, sy'n golygu y bydd yn eiddo i'w aelodau ac yn cael ei redeg er budd iddynt.
Bydd y Banc Cymunedol i Gymru, y banc cymunedol cyntaf o'i fath yn y DU yn ôl y sôn, yn darparu gwasanaethau bancio manwerthu dwyieithog i unigolion a busnesau – a fydd ar gael dros y ffôn, yn ddigidol a thrwy rwydwaith o allfeydd ffisegol ledled Cymru.
O dan arweinyddiaeth Cyfarwyddwr newydd Rhaglen y Banc Cymunedol, Steve Phillips, mae'r Gymdeithas yn recriwtio ar gyfer rolau newydd i gefnogi a llywio'r gwaith o ddatblygu'r banc cymunedol, ei frand, ei wasanaethau a'i gynhyrchion dros y misoedd nesaf.
Mae'r rolau yn galw am arbenigedd mewn meysydd gan gynnwys gweithrediadau, rheoli prosiectau/cynhyrchion, rheoliadau, a dadansoddi busnes – a gellir gwneud cais amdanynt drwy wefan Monmouthshire Building Society.
Steve Phillips, a ymunodd â thîm gweithredol y Gymdeithas ym mis Ebrill eleni ar ôl pedair blynedd fel Pennaeth Gweithrediadau yn MBS, sy'n gyfrifol am yrru'r Banc Cymunedol i Gymru yn ei flaen. Bydd y tîm o recriwtiaid newydd yn chwarae rôl hanfodol wrth ei helpu i arwain y Gymdeithas drwy'r camau datblygu nesaf.
Dywedodd Steve Phillips:
“Gyda llawer o fanciau manwerthu yn gadael y stryd fawr ledled Cymru, mae llawer o bobl a chymunedau wedi colli mynediad i wasanaethau bancio gwerthfawr.
“Nid yw hyn yn iawn yn ein barn ni, felly rydym yn mynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth hwn a methiant y farchnad drwy ddatblygu a chyflwyno Banc Cymunedol i Gymru.
“Yn sicr, mae llawer o waith i'w wneud i ddod â'n Banc Cymunedol i'r farchnad – ond mae hefyd yn un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous ers i Monmouthshire Building Society gael ei sefydlu 150 mlynedd yn ôl. Mae'n cynnig cyfle gwirioneddol i dîm o bobl uchelgeisiol a thalentog fod yn rhan o'r gwaith o sefydlu brand Cymreig cynaliadwy a moesegol a fydd yn trawsnewid y dirwedd ariannol yng Nghymru er gwell.”